CYPYRDDAU DILLAD
WARDROBES
O'r dillad gorau
i'r pâr olaf o sannau
Mae cypyrddau dillad wedi'u gosod yn ddewis mwy a mwy poblogaidd. Anaml ceir gwpwrdd o un o'r siopau mawr sy'n ffitio'n berffaith yn yr ystafell wely, a 'rydym oll yn gyfarwydd â'r olygfa o'r wardrob yn y gornel gyda bocsys cardfwrdd a'r cês gwyliau yn eistedd ar ei ben. Trwy gael cwpwrdd wedi ei adeiladu, mae modd gwneud y mwyaf o'r gofod hwn a chael dodrefnyn sydd wirioneddol yn ateb eich gofynion, gan lwyddo i gadw'r siwt neu'r ffrog orau a'r sannau chwaraeon, yn ogystal â chotiau'r gaeaf, oll yn daclus y tu ôl y drysau.
Ers 2017, mae cypyrddau dillad Pedair Cainc wedi dilyn sawl steil a chyflwyno sawl modd o gadw dillad a manion eraill, gan gynnwys rheiliau hir a byr, cypyrddau top i ddillad gwely, droriau, silffoedd esgidiau ac yn y blaen. Mae cael cyfuniad o'r systemau hyn yn sicrhau y cewch gwpwrdd dillad hynod ymarferol gan gyd-fynd gyda'ch chwaeth a steil eich cartref.
From your best clothes
to the last pair of socks
Fitted wardrobes are becoming an ever popular option for homeowners. It's not often you find a store-bought wardrobe that perfectly fits the shae and size of your bedroom, and we're all familiar with the sight of the wardrobe in the corner with the cardboard box and holiday cases on top. By getting a wardrobe built bespoke, you'll make the most of this space and have a wardrobe that truely fits your needs, with room for your best suit or frock and your gym clothes, as well as those great big winter coats, all kept away tidyly behind a set of doors.
Since 2017, Pedair Cainc has built wardrobes following various styles and with several storage options for clothes and other items, including long and short hanging rails, top boxes for the bed linen, drawers, shoe shelves and so on. A combination of these options will ensure a really practical wardrobe that matches your design preference as well as your home's style.